Yn dod i Gymru
Mae Sefydliad ScaleUp ynghyd â Chyfnewidfa Stoc Llundain, Tramshed Tech a'n partneriaid allweddol, yn cynnal digwyddiad ScaleUp Britain ar 14 Hydref 2026 yng nghanol Caerdydd.
Bydd hyn ar agor i bob busnes sy'n ehangu yn ogystal â chwaraewyr ecosystem sy'n cefnogi'r busnesau hyn.
Bydd y digwyddiad yn ymchwilio i'r dirwedd ariannu a'r opsiynau i godi cyfalaf yn 2026 a thu hwnt; gan roi cipolwg ar fentrau newydd i fanteisio ar gyfalaf preifat a chael mynediad at gronfa fuddsoddwyr ehangach a dyfnach, gan gynnwys cyfalaf sefydliadol mewn ffordd haws a symlach wrth aros yn breifat, tra bod eich cwmni yn tyfu.
Bydd yn gyfle gwych i glywed am yr amrywiol fentrau cymorth cyllid ac ehangu sydd ar y gweill, yn ogystal â chynnig cyfleoedd rhagorol i rwydweithio gyda chyfoedion.
Bydd rhaglen y prynhawn yn cynnwys mewnwelediadau arbenigol gan:
Cyfnewidfa Stoc Llundain ar y datblygiadau diweddaraf mewn marchnadoedd cyfalaf; rheolau rhestru a'r Farchnad Gwarantau Preifat a fydd ar agor i fusnesau sy'n ehangu er mwyn cael mynediad at gymuned ehangach o fuddsoddwyr mewn modd mwy effeithlon a di-dor ac agor hylifedd i chi.
Banc Busnes Prydain a Banc Datblygu Cymru a fydd yn darparu'r wybodaeth ddiweddaraf am eu datblygiadau a'u cefnogaeth.
Aarbenigwyr o chwaraewyr ecosystem lleol a fydd yn trafod pa gefnogaeth sydd ar gael ar hyn o bryd ar raddfa fawr, gan gynnwys Tramshed Tech.
Cyngor arbenigol gan gyllidwyr a chynghorwyr blaenllaw a fydd yn trafod y tueddiadau diweddaraf gan gynnwys BGF, NatWest a Barclays
Busnesau sy'n ehangu yn siarad am eu teithiau ehangu a'r profiadau a ddysgwyd ar hyd y ffordd
Felly p'un a ydych yn fusnes graddio neu'n arweinydd ecosystem sy'n cefnogi cwmnïau graddfa, ymunwch â ni yn Uwchgynhadledd ScaleUp Britain er mwyn:
Cysylltu ag arian ac arbenigwyr a chael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau cyllid.
Cysylltu â chyfleoedd Marchnad a Thalent, gan gynnwys datblygu effeithiolrwydd Bwrdd.
Rhwydweithio gyda'ch cyfoedion a rhannu eich profiad.
Lleoliad:
Uned D, Tramshed Tech. Stryd Pendyris, Caerdydd. CF11 6BH, DU.
Dyddiad ac Amser:
Dydd Mercher 14 Hydref
12:00 - 17:30